#

Y Pwyllgor Deisebau | 07 Mai 2019
 Petitions Committee | 07 May 2019
 
 
 ,Pecynnau plastig untro ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru 

 

 

 


Briff gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-874

Teitl y ddeiseb: Gwahardd gwerthu nwyddau sydd wedi eu pecynnu mewn plastig untro ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru

Testun y ddeiseb: Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i wahardd gwerthu nwyddau sydd wedi eu pecynnu mewn plastig untro ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru. Fel y nodir gan Lywodraeth Cymru: "Gwaith Trafnidiaeth Cymru yw gwireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru o rwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon uchel y mae pobl Cymru’n ymfalchïo ynddo." Rydym yn teimlo y byddai gwahardd gwerthu plastigau untro sy'n niweidiol i'n hamgylchedd naturiol yn gam sylweddol tuag at gyrraedd yr amcan hwn ac yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu dyfodol tecach a mwy diogel i ddinasyddion Cymru.

Cefndir

Mae plastigau untro, neu blastigau tafladwy, wedi'u cynllunio i'w defnyddio unwaith a'u taflu neu eu hailgylchu. Fel arfer, eitemau fel poteli plastig, gwellt yfed, cwpanau coffi a phecyn bwyd parod yw’r rhain. Mae sylw diweddar yn y cyfryngau, yn enwedig cyfres Blue Planet II ar y BBC wedi dangos faint o weddillion plastig sydd yn ein cefnforoedd o ganlyniad i'n diwylliant 'taflu i ffwrdd'. Ceir tystiolaeth o ba mor gyffredin yw effaith plastig untro mewn arolygon sbwriel traethau. Mae adroddiad Beachwatch y Gymdeithas Cadwraeth Forol yn 2017 yn dangos mai darnau bach o blastig oedd yr eitem fwyaf cyffredin ar draethau ledled y DU.

Fe wnaeth adroddiad Single Use Plastic and the Marine Envrionment gan Eunomia yn 2017 ar gyfer Seas at Riskgyfrifo’r swm o wastraff plastig untro 'ar y ffordd' gan mai dyma sydd fwyaf tebygol o ddianc rhag systemau casglu gwastraff arferol. Mae canfyddiadau allweddol yr ymchwil yn cynnwys y canlynol:

§  mae llawer o'r eitemau hyn nad oes rhaid iddynt fod wedi’u gwneud o blastig (e.e. mae opsiynau gwydr a phapur yn bodoli), tra bod eraill yn cael eu defnyddio'n ddiangen, e.e. gwellt yfed;

§  mae llawer o gefnogaeth ymhlith y cyhoedd i fesurau i leihau’r defnydd o blastig, sy'n cynyddu ar ôl gweithredu'r mesurau;

§  mae ffyrdd o leihau defnydd o blastigau untro yn bodoli, ac maent wedi bod yn rhedeg mewn nifer o leoedd ledled y byd; a

§  byddai lleihau’r defnydd o eitemau plastig untro allweddol yn cael gwared ar ffynhonnell fawr o lygredd morol ym mhob un o foroedd Ewrop.

Fe wnaeth adroddiad yn 2018 gan Eunomia, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, Options for Extended Producer Responsibility in Wales, amcangyfrif bod tua 950 tunnell o wastraff pecynnu bwyd parod yn cael eu cynhyrchu yng Nghymru bob blwyddyn, ac amcangyfrifir mai dim ond 8.5% o hyn sy'n cael ei ailgylchu.  Aeth ymlaen i ddweud:

While accounting for less than 0.06% by weight of Welsh municipal waste arisings, takeaway food packaging is a highly visible component of litter. We estimate that takeaway food packaging waste (which includes expanded polystyrene (EPS) containers) accounts for 1.6% of litter by weight on the ground and in litter bins, but accounts for a larger proportion overall by volume.

Mae’r adroddiad yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru wneud y canlynol:

Conduct trials of reusable take-away packaging, perhaps within specific areas such as covered, permanent markets in the first instance, in order to better understand consumer acceptance. Examples already exist of reusable tiffins for some food types, and innovation, and expanded uptake should be encouraged in this area across the whole range of takeaway food types.

Mae ymestyn cyfrifoldeb cynhyrchwyr, fel y cyflwynwyd gan Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff yr UE, yn ffordd o annog cynhyrchwyr i ystyried y rhan ôl-ddefnyddiwr o gylch bywyd cynnyrch drwy roi cyfrifoldeb iddynt amdani. Byddai ymestyn cyfrifoldeb cynhyrchwyr yn achos nwyddau sy’n cael eu gwerthu drwy wasanaethau Trafnidiaeth Cymru yn ffordd o annog cynhyrchwyr i leihau gwastraff wrth gynllunio pecynnau.

Caffael gan Trafnidiaeth Cymru

Sefydlwyd Trafnidiaeth Cymru yn 2015 fel cwmni dielw sy'n gyfan gwbl eiddo i Lywodraeth Cymru. Ei ddiben cychwynnol oedd caffael a datblygu/rheoli masnachfraint rheilffyrdd newydd Cymru a gwasanaethau Metro ar Gledrau’r Cymoedd ar ran Llywodraeth Cymru gan ddefnyddio pwerau gweithredol a ddatganolwyd yn 2018. 

Uchelgais Llywodraeth Cymru yw mai Trafnidiaeth Cymru fydd ei gwmni cyflenwi trafnidiaeth.  Mae achos busnes wrthi’n cael ei ddatblygu i ystyried sut y gellid datblygu’r rôl ehangach hon.  Mae hyn yn golygu y gallai Trafnidiaeth Cymru fod yn gyfrifol am ragor o wasanaethau yn y dyfodol, er enghraifft rhai gwasanaethau bysiau. Fodd bynnag, yn y tymor byr mae’n bennaf gyfrifol am oruchwylio gwasanaethau rheilffyrdd.

Rhoddwyd y fasnachfraint newydd i KeolisAmey ym mis Mai 2018.  Dechreuodd KeolisAmey weithredu gwasanaethau rheilffyrdd ym mis Hydref 2018 fel TrC Trenau

Mae Trafnidiaeth Cymru a TrC Trenau yn gyrff ar wahân. Tra bod Trafnidiaeth Cymru yn gwmni dielw sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru yn gyfan gwbl, mae TrC Trenau (KeolisAmey) yn gwmni gwasanaethau rheilffordd a seilwaith masnachol. Fodd bynnag, maent yn mabwysiadu dull partneriaeth o ddarparu gwasanaethau rheilffyrdd.

Er mai cwmni masnachol yw TrC Trenau, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gaffael cynifer o wasanaethau rheilffordd â phosibl yn ddielw.  Wrth gyflwyno tystiolaeth i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ym mis Tachwedd 2018, dywedodd Prif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru y byddai hyn yn cynnwys pethau fel arlwyo, glanhau, gwerthu tocynnau, marchnata, a meysydd parcio.  Aeth ymlaen i ddweud mai arlwyo wrth seddi fyddai’r gwasanaeth cyntaf y bydd Trafnidiaeth Cymru yn ei gaffael ar y sail hon ac y byddai achos busnes llawn yn cael ei baratoi.

Nid yw'r llythyr gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i'r Pwyllgor Deisebau mewn ymateb i'r ddeiseb hon yn gwneud ymrwymiad uniongyrchol i wahardd pecynnau plastig untro.  Fodd bynnag, mae'n cyfeirio at y canlynol:

§    Cynllun Datblygu Cynaliadwy Trafnidiaeth Cymru, sy'n awgrymu y bydd Trafnidiaeth Cymru yn ei ddefnyddio i helpu i gyflawni a chefnogi dyfodol cynaliadwy i Gymru sy'n cyd-fynd yn llwyr â'r nodau a'r ffyrdd o weithio a nodir yn Neddf Cenedlaethau'r Dyfodol Llywodraeth Cymru; a

§    Chynllun Rheoli Gwastraff Trafnidiaeth Cymru, sy'n gweithredu egwyddorion yr Hierarchaeth Gwastraff Ewropeaidd trwy ddileu, lleihau, ailddefnyddio, ailgylchu ac adfer gwastraff.  Mae'n nodi ymrwymiad i leihau'r defnydd o boteli diodydd plastig fel enghraifft.

Ar adeg ysgrifennu hyn, nid yw’r naill ddogfen wedi’u cyhoeddi ar wefan Trafnidiaeth Cymru. 

Camau gan Lywodraeth Cymru

Mewn datganiad ysgrifenedig ar 28 Medi 2017, dywedodd Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar y pryd, “fel Llywodraeth, rydym yn derbyn bod angen gwneud mwy i wella ein cyfradd ailgylchu ymhellach ac i fynd i’r afael â sbwriel a’r materion sy’n gysylltiedig â chymdeithas a diwylliant ‘taflu’”.  Awgrymodd, er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn, y dylid ceisio “atal sbwriel rhag mynd i mewn i’r amgylchedd yn y lle cyntaf”, a “[g]werthfawrogi’r adnoddau hynny rydym ni’n eu cymryd yn ganiataol yn rhy aml”. Cyhoeddodd hi’r astudiaeth Eunomia i ymestyn cyfrifoldeb cynhyrchwyr (uchod) i asesu opsiynau posibl, gan ddweud:

Rwyf wedi comisiynu astudiaeth i asesu ymyriadau posibl i gynyddu gweithgarwch atal gwastraff, codi cyfraddau ailgylchu a lleihau sbwriel ar y tir a sbwriel morol. Bydd cynlluniau cyfrifoldeb cynhyrchwyr, megis y cynlluniau sydd ar waith yn y DU ar hyn o bryd, yn cael eu cynnwys yn yr ymchwil. Bydd Cynlluniau Dychwelyd Blaendal yn cael eu cynnwys hefyd. Bydd yr ymchwil hefyd yn asesu effeithiau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol posibl cynlluniau ymestyn cyfrifoldeb cynhyrchwyr (EPR), gan gynnwys unrhyw ganlyniadau anfwriadol posibl.

Mewn datganiad gan Lywodraeth Cymru yn y Cyfarfod Llawn ar 27 Chwefror 2018, trafododd Gweinidog yr Amgylchedd ar y pryd, Hannah Blythyn AC, y camau gan Lywodraeth Cymru ar blastigau untro:

Rydym ni wedi sicrhau y bu Cymru'n rhan o alwad Llywodraeth y DU am dystiolaeth ynglŷn â sut y bydd yn ymdrin â mater plastig untro, gan gynnwys drwy ddefnyddio treth.

Ochr yn ochr â hyn, byddwn yn parhau i weithio ar dreth plastig tafladwy annibynnol posibl ar gyfer Cymru. 

Mewn datganiad gan Lywodraeth Cymru yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Mai 2018, cyhoeddodd Gweinidog yr Amgylchedd ar y pryd ganlyniadau'r astudiaeth i ymestyn cyfrifoldeb cynhyrchwyr. Meddai:

Rwyf i'n ystyried diwygiadau i reoliadau rhwymedigaethau cyfrifoldeb cynhyrchwyr fel bod cynhyrchwyr a manwerthwyr yn talu cyfran fwy o gostau rheoli gwastraff.

… Rydym yn parhau i weithio gyda Thrysorlys EM ar dreth plastig untro i'r DU.

… Gallaf gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru wedi llofnodi cytundeb plastigau y DU WRAP.

Hefyd, cyhoeddodd ffyrdd y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i “weithredu ar ein geiriau”:

Rwyf i wedi ymrwymo i sicrhau nad oes plastig untro i'w weld yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru erbyn diwedd tymor y Cynulliad hwn…

… Nid ydym yn defnyddio gwellt, trowyr na chyllyll a ffyrc plastig yn ein ffreuturau. Hefyd, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddylanwadu ar y sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru, er enghraifft drwy ddarparu contractau caffael deunyddiau tafladwy yn holl adeiladau Llywodraeth Cymru, drwy weithio gyda Gwerth Cymru.

Yn y Cyfarfod Llawn ar 13 Mehefin 2018, mewn ymateb i gwestiwn gan lefarydd y Blaid Geidwadol, David Melding AC, dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd ar y pryd fod Llywodraeth Cymru yn ystyried:

… sut y defnyddiwn gaffael cyhoeddus… yn enwedig yn y sector cyhoeddus, a chydag unrhyw gontractau a chadwyni cyflenwi, a sut rydym yn cymhwyso caffael cyhoeddus gwyrdd.  Ac yn enwedig o fewn fy mhortffolio fy hun, rydym yn edrych ar sut y gallwn, drwy weithio ochr yn ochr â'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, ochr yn ochr â WRAP, a swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, ddatblygu ystod o fesurau sy'n caniatáu i ni nodi tueddiadau a chamau gweithredu i helpu i leihau'r defnydd o blastigion.

Ddydd Llun 18 Chwefror 2019, fe wnaeth y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn AC, ddatganiad ysgrifenedig yn cyhoeddi tri ymgynghoriad yn ceisio mynd i'r afael â gwastraff a phecynnu plastig.

Mae hi wedi annog pobl Cymru i ddweud eu dweud ar y cynigion ar y cyd, a lansiwyd gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) Llywodraeth y DU. Mae'r cynigion yn cynnwys ymestyn cyfrifoldeb cynhyrchwyr ar gyfer pecynnu (a fydd yn gymwys i'r DU gyfan), a chynllun dychwelyd blaendal ar gyfer cynwysyddion diodydd, a fydd yn gymwys i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon (fe wnaeth Llywodraeth yr Alban ymgynghori ar gynigion ar gyfer cynllun dychwelyd blaendal  y llynedd).

Mae trydydd ymgynghoriad ledled y DU, a gyhoeddwyd gan Drysorlys Ei Mawrhydi, yn ceisio barn ynghylch treth arfaethedig ar gynhyrchu a mewnforio pecynnu plastig sydd â llai na 30% o gynnwys wedi'i ailgylchu.

Camau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Fe wnaeth Pwyllgor Deisebau y Pedwerydd Cynulliad drafod deiseb flaenorol ynghylch gwahardd pecynnu polystyren rhwng 2014 a 2016. Yn dilyn yr ymateb gan Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig ar y pryd, cytunodd y Pwyllgor nad oedd llawer mwy y gallai ei wneud i symud y mater yn ei flaen a chaewyd y ddeiseb.

Mae Pwyllgor Deisebau y Pumed Cynulliad wrthi’n trafod y deisebau cysylltiedig a ganlyn, gyda'r nod o leihau gwastraff plastig:

§    P-05-750 Ar gyfer eitemau untro: cyflwyno System Dychwelyd Ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd a sicrhau y gellir compostio cynwysyddion bwyd cyflym a'r offer sy'n gysylltiedig â hwy;

§    P-05-803 Mae ein byd naturiol yn cael ei wenwyno gan blastigau untro...mae'n bryd cyflwyno treth!;

§    P-05-822 Gwahardd gwellt plastig (wrth yfed llaeth) yn ein hysgolion;

§    P-05-829 Gwahardd Eitemau Plastig Untro yng Nghymru; a

§    P-05-847 Creu ffynhonnau dŵr yng nghanol dinasoedd a threfi er mwyn rhoi diwedd ar wastraff plastig.

Fe wnaeth y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig gynnal ymchwiliad yn ddiweddar i lygredd microplastigau yn afonydd Cymru. Nid yw'r adroddiad wedi'i gyhoeddi eto.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.